Annwyl Alun Ffred Jones AC

 

Ysgrifennaf yn dilyn sesiwn dystiolaeth ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynlluniau tlodi tanwydd yng Nghymru. Roeddwn i â’m cydweithiwr William Baker yn ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth, yn enwedig o gofio rôl statudol Cyngor ar Bopeth yn cynrychioli defnyddwyr ynni.

Yn yr ymchwiliad, nodais fy mhryderon ynglŷn ag ymchwiliad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) i’r farchnad ynni, a sut bydd yn gweithio yng Nghymru.

Ymatebodd Cyngor ar Bopeth i ymgynghoriad Ofgem ar yr atgyfeiriad, gan wneud y pwynt y dylid nodi’n gwbl bendant yr angen i ystyried materion datganoledig yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad. Gan na chynhwyswyd y cyfryw gyfeiriad, credaf ei bod yn bwysig bod ymchwiliad y CMA yn llwyr ystyried y problemau y mae defnyddwyr ynni’n eu hwynebu yng Nghymru.

Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn awyddus i’r CMA gadw mewn cof bob un o’r effeithiau canlynol ar y ffordd y mae’r farchnad ynni yn gweithredu yng Nghymru;

·         Polisi datganoledig cyfredol

·         Cyfrifoldebau datganoledig posibl y dyfodol

·         Ffurf wahanol y farchnad gyflenwi yng Nghymru

·         Daearyddiaeth a demograffeg unigryw Cymru

 

Rwy’n amgáu nodyn briffio cryno sy’n ymhelaethu ar y pwyntiau hyn. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno y bydd hi’n bwysig sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau sy’n deillio o’r ymchwiliad yn osgoi canlyniadau anfwriadol i ddefnyddwyr yng Nghymru.

Byddwn yn ddiolchgar pe byddech, fel Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, yn ystyried codi’r mater hwn gyda’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon gan ofyn iddo gyflwyno’r materion i’r CMA ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Hoffwn awgrymu hefyd y gallech o bosibl gyflwyno’r materion eich hun yn uniongyrchol i’r Awdurdod, ac ystyried dwyn sylw’ch cydweithwyr yn San Steffan at y materion hefyd. Credaf y gall fod gan Swyddfa Cymru rôl eiriolaeth yn hyn o beth o ran sicrhau bod y CMA yn cymryd datganoli o ddifrif, a byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gynrychiolaeth bellach y gallech ei gwneud i’r perwyl hwn.

Byddwn yn barod iawn i gwrdd â chi neu â’ch cydweithwyr i drafod hyn yn fanylach pe bai hynny o gymorth.

Yn gywir,

 

Andrew Regan

Rheolwr Polisi Ynni, Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru